Gwasanaethu ein cymunedau lleol
Cynghorau cymunedol yw gwreiddiau llywodraeth leol, ac ers 1974, mae Cyngor Cymuned Llanasa wedi bod yn gwasanaethu ein tair ward a’n tair ar ddeg pentref. Mae ein pedwar ar ddeg cynghorydd yn cynrychioli ein trigolion cymunedol, ac maen nhw’n atebol iddyn nhw. Rydych yn ethol cynghorwyr cymunedol newydd bob pum mlynedd.
Mae Llywodraeth Cymru, yr awdurdod Lleol, a chyrff statudol eraill yn ymgynghori’n rheolaidd â chynghorau cymunedol ar faterion sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yn ein wardiau. Ymgynghorir â ni ar bob cais cynllunio yn y ward, ac mae croeso i chi fynychu unrhyw gyfarfodydd lle trafodir ceisiadau cynllunio. Fodd bynnag, Cyngor Sir y Fflint sy’n gwneud penderfyniad terfynol ar geisiadau. Rydym yn gweithredu dros 300 o oleuadau stryd, yn cynnal llochesi bysiau, meinciau, a hysbysfyrddau ac yn gweinyddu Mynwent Picton. O bryd i'w gilydd byddwn yn rhoi rhoddion i sefydliadau eraill, ac ystyrir ceisiadau am gymorth drwy gydol y flwyddyn.
Next meeting
Ysgol Bryn Garth,
Maes Emlyn,
Pen-y-ffordd,
Holywell, CH8 9JA
Cyfarfod nesaf
Ysgol Bryn Garth,
Maes Emlyn,
Pen-y-ffordd,
Holywell, CH8 9JA
Rydyn ni yma i gynrychioli’r bobl yn ein cymunedau, pwy bynnag ydyn nhw ac o ble bynnag mae nhw’n dod.
—Sian Braun, Cadeirydd